Ian Woosnam (Steve Withers CCA2.0)
Fe fydd y Cymry Jamie Donaldson ac Ian Woosnam yn dechrau ar eu hymgais i ennill cystadleuaeth Meistri’r Unol Daleithiau yn Augusta heddiw.
Mae Donaldson yn cystadlu yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf, a Woosnam yn dychwelyd fel cyn- enillydd.
Dyma’r tro cynta’ i Gymru gael dau gystadleuydd yr un flwyddyn.
Y cefndir
Fuzzy Zoeller oedd y chwaraewr diwethaf i ennill y gystadleuaeth ar ei ymgais gyntaf yn 1977.
Bydd enillydd y 77fed Meistri yn derbyn y Siaced Werdd ddydd Sul, a’r Americanwr Tiger Woods yw’r ffefryn.
Mae’r gystadleuaeth yn dechrau am 1pm y prynhawn yma.