Mae Asda wedi galw ar gwsmeriaid i ddychwelyd tuniau o gorn bîff i’r archfarchnad ar ôl i olion o’r cyffur lladd poen i geffylau gael eu darganfod yn y cynnyrch.

Fe gadarnhaodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd bod “lefelau isel iawn” o’r cyffur phenylbutazone wedi eu darganfod yn y corn bîff Smart Price, ac mae’r archfarchnad wedi rhybuddio cwsmeriaid i beidio’i fwyta.

Cafodd  y cynnyrch ei dynnu oddi ar  silffoedd Asda ar Fawrth 8 yn dilyn profion oedd wedi dangos bod 1% o DNA cig ceffyl wedi cael ei ddarganfod.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud mai yn y cynnyrch hwn yn unig y mae olion ‘bute’ wedi cael eu darganfod hyd yma.

Ond cafodd olion o’r cyffur eu darganfod yng nghyrff ceffylau meirw ym mis Chwefror.

Mae Asda yn hyderus nad yw gweddill eu cynnyrch wedi’i heffeithio, ac maen nhw wedi cynnig ad-dalu cwsmeriaid sydd wedi prynu’r corn bîff.

Dywedon nhw fod ychydig iawn o risg i gwsmeriaid, ond eu bod nhw hefyd yn tynnu tuniau corn bîff Chosen By You oddi ar eu silffoedd.

Er nad yw’r cynnyrch hwnnw’n cynnwys y cyffur, mae’n cael ei gynhyrchu yn yr un ffatri â chorn bîff Smart Price.

Yn ôl deddfwriaeth sy’n rheoleiddio bwyd, rhaid i brofion ddangos nad oes olion o’r cyffur yn y cynnyrch cyn y caiff gyrraedd y silffoedd.

Mae 700 o brofion wedi eu cynnal ar gynnyrch Asda hyd yma.