Llys y Goron Yr Wyddgrug
Fe fydd dynes 42 oed yn ymddangos gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug heddiw, wedi’i chyhuddo o lofruddio pum aelod o’r un teulu.
Bu farw Lee-Anna Shiers, oedd yn 20 oed, ei nai pedair oed, Bailey a’i nith dwy oed, Skye pan ledodd y tân drwy eu cartref ym Maes y Groes ym Mhrestatyn ar Hydref 19 y llynedd.
Cafodd mab 15 mis oed Lee-Anna Shiers, Charlie a’i dad, Liam Timbrell, 23 oed, eu hachub ond fe fu farw’r ddau yn yr ysbyty’n ddiweddarach.
Mae Melanie Smith, oedd yn byw yn y fflat islaw’r teulu, yn gwadu pum cyhuddiad o lofruddiaeth ac un cyhuddiad o fygwth dinistrio eiddo.