Blodau tu allan i gartref Y Farwnes Thatcher yn Belgravia, Llundain
Mae paratoadau ar y gweill ar gyfer angladd seremonïol Margaret Thatcher a fu farw ddoe ar ôl cael strôc.

Mae disgwyl i angladd y cyn brif weinidog, oedd yn 87 oed, gael ei gynnal gydag anrhydeddau milwrol llawn yng Nghadeirlan San Paul.

Fe gyhoeddodd Downing Street bore ma y bydd ei hangladd yn cael ei gynnal ar Ddydd Mercher, 17 Ebrill.

Fe fydd y gwasanaeth yn cael ei darlledu ac mae disgwyl i wleidyddion o bedwar ban byd fod yno.

Cafodd corff y Farwnes Thatcher ei symud o westy’r Ritz yn Llundain mewn ambiwlans preifat tua 12.20yb yn dilyn ei marwolaeth yno fore ddoe.

Yn y cyfamser mae Aelodau Seneddol yn cael eu galw’n ôl i’r Senedd yfory ar ôl gwyliau’r Pasg er mwyn rhoi’r cyfle iddyn nhw roi teyrngedau pellach i Margaret Thatcher.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog David Cameron ac arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband wneud datganiad yn y Senedd.

Mae baneri wedi cael eu gostwng yn Downing Street, Y Senedd ac adeiladau Swyddfa Cymru yng Nghaerdydd a Llundain.

‘Dathlu’ ei marwolaeth

Ond wrth i deyrngedau gael eu rhoi o bedwar ban byd i’r ddynes gyntaf i fod yn Brif Weinidog ym Mhrydain, roedd nifer yn feirniadol o effaith niweidiol a pharhaol ei pholisïau yn ystod ei 11 mlynedd wrth y llyw.

Neithiwr, bu cannoedd o bobl yn cynnal partïon i “ddathlu” ei marwolaeth yng Nglasgow a Brixton, yn ne Llundain. A chafodd chwech o blismyn eu hanafu mewn digwyddiad ym Mryste. Mae un person wedi ei arestio.

Mae teulu’r Farwnes Thatcher wedi gofyn i bobl wneud rhodd tuag at Ysbyty Brenhinol Chelsea yn hytrach na gadael blodau.