Mae trigolion Alsace yn nwyrain Ffrainc wedi gwrthod cynnig i uno dwy etholaeth er mwyn creu un rhanbarth i Alsace.

Mewn refferendwm dim ond un o bob tri o’r etholwyr wnaeth bleidleisio, ac mae’n newydd drwg i’r rheiny sydd am weld undod i ranbarthau eraill yn Ffrainc, megis Llydaw. Roedd y Front National wedi annog pleidleiswyr i bleidleisio yn erbyn creu rhanbarth yn Alsace rhag ofn byddai’n arwain at ddatganoli grym o Baris i’r ranbarthau.

Mae Alsace wedi ei rhannu yn ddau département, Uwch-Rhein ac Is-Rhein, ac mae’n debyg bod rhai o drigolion Uwch-Rhein yn gofidio y byddai Is-Rhein, a’i phrif ddinas Strasbourg, yn dominyddu yn y rhanbarth newydd.

45% o drigolion Uwch-Rhein wnaeth bleidleisio o blaid y cyfle i uno a 67% o drigolion Is-Rhein, ond roedd cyfran y pleidleiswyr yn rhy isel – roedd angen i o leiaf 25% o’r holl etholwyr bleidleisio o blaid.

Roedd mwyafrif trigolion Mulhouse, sef prif ddinas Uwch-Rhein, wedi pleidleisio o blaid un rhanbarth er gwaetha’r pryderon y byddai Mulhouse yn israddol i Strasbourg yn yr uniad newydd.

Mae Alsace yn diriogaeth sydd wedi newid dwylo droeon rhwng Ffrainc a’r Almaen, ac mae diwylliant ac iaith y rhanbarth yn dyst i hynny.