Mae’r nifer gynyddol o dwristiaid sy’n dod i Brydain i dderbyn triniaeth feddygol yn rhoi pwysau ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd, yn ôl llawfeddyg blaenllaw.
Dywed yr Athro J Meirion Thomas, sy’n llawfeddyg canser yn Llundain, fod twristiaid yn costio biliynau o bunnoedd i drethdalwyr bob blwyddyn.
Un o’r trafferthion mwyaf, yn ôl y llawfeddyg, yw menywod beichiog sy’n dod i Brydain oherwydd eu bod nhw’n gwybod eu bod nhw’n debygol o dderbyn triniaeth o’r radd flaenaf.
Yn ei erthygl yn y cylchgrawn The Spectator, dywedodd: “Mae menywod o dramor yn aml yn cyrraedd y DU yn hwyr yn eu beichiogrwydd, yn aml wedi iddyn nhw gael trafferthion.
“Maen nhw’n dod ar visa ymwelydd ac yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ar fin rhoi genedigaeth.
“Yn aml, mae’r claf yn gwrthod talu, gan honni bod rhoi genedigaeth yn rhoi’r hawl iddyn nhw dderbyn gofal brys ac felly, nid oes modd troi unrhyw un i ffwrdd.
“Yn y modd yma, gellir defnyddio’r Gwasanaeth Iechyd fel adran famolaeth y byd.”
‘Manylion ffug’
Ychwanegodd fod nifer fawr o dwristiaid yn defnyddio manylion ffug er mwyn derbyn triniaeth, ac nad yw’r manylion yn cyfateb i ganlyniadau profion meddygol sy’n cael eu cynnal.
Dywedodd fod y fath achosion yn gyffredin ymhlith cleifion canser, HIV, anffrwythlondeb a’r arennau.
“Gallair camddefnydd hwn fod yn costio nid miliynau, ond biliynau o bunnoedd i’r Gwasanaeth Iechyd (ac felly drethdalwyr Prydain) bob blwyddyn.”
Dywedodd fod nifer o ddulliau o atal teithwyr rhag camddefnyddio’r system, ac y dylid tynnhau’r rheolau am y math o ofal y gall twristiaid ei dderbyn.
Ychwanegodd fod cyfrifoldeb ar feddygon teulu hefyd i sicrhau bod angen triniaeth ysbyty ar dwristiaid cyn iddyn nhw gael eu trosglwyddo i ysbytai.
Galwodd am ymchwiliad i’r mater.