Michael Gove
Mae undeb athrawon yr NUT wedi galw ar Ysgrifennydd Addysg llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, Michael Gove, i ymddiswyddo.

Maen nhw’n dweud ei fod e wedi “torri calonnau a dyfodol” pobol ifanc Prydain, a bod athrawon wedi colli ffydd ynddo.

Yn ystod eu cynhadledd yn Lerpwl, galwodd yr undeb ar i rieni ymuno â nhw yn eu hymgais i ddwyn pwysau ar Gove i ymddiswyddo.

Daeth yr alwad yn dilyn pleidlais o ddiffyg hyder gan yr undeb yn Gove.

Dywedodd aelod o’r NUT, Oliver Fayers, sy’n arwain yr ymgyrch: “Fel athrawon, mae gyda ni ddyletswydd i sicrhau bod Ysgrifennydd Addysg sy’n ffaelu yn cael ei ddwyn i gyfrif.”

Ond mae’r Adran Addysg yn cefnogi Gove, gan ddweud bod diwygio’r proffesiwn yn golygu erbyn hyn bod gan athrawon fwy o ryddid nag o’r blaen, a bod hynny’n codi safonau.

Mae’r undeb yn feirniadol o rai o benderfyniadau dadleuol Michael Gove, gan gynnwys addasu’r ffordd y mae canlyniadau TGAU yn cael eu penderfynu, a gwaredu’r lwfans cynnal addysg.

Cafodd Gove ei gyhuddo gan yr NUT o “fod yn gyfrifol am ystod o bolisïau a gweithredoedd sydd wedi bod, ac a fydd yn hynod niweidiol i’r system addysg”, ac fe ychwanegon nhw fod ganddyn nhw “ddim hyder yng ngallu’r Ysgrifennydd Addysg i lywodraethu dros bolisi addysg y Deyrnas Unedig yn llwyddiannus”.

Galwon nhw am Ysgrifennydd Addysg newydd a fydd yn gallu adfer ffydd y cyhoedd.

Mae Cymdeithas ATL eisoes wedi cyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder yn Michael Gove a phennaeth Ofsted, Syr Michael Wilshaw.