Mae Heddlu Llundain wedi gollwng y cyhuddiadau yn erbyn golygydd straeon trosedd The Sun, Mike Sullivan.
Sullivan oedd yr unfed person ar ddeg i gael ei arestio fel rhan o Elveden, sy’n ymchwilio i daliadau llwgr i swyddogion cyhoeddus.
Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw’n bwriadu dwyn achos yn ei erbyn.
Mae pedwar swyddog cyhoeddus wedi eu cael yn euog o gamymddwyn mewn swyddi cyhoeddus ers i’r ymchwiliad ddechrau.