Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd y BBC, Tony Hall wedi dweud ei fod yn “falch” o gael arwain y Gorfforaeth, ond bod “cyfrifoldeb anferth” yn ei wynebu.
Heddiw yw diwrnod cyntaf yr Arglwydd Hall yn ei swydd newydd, ar ôl cael ei benodi’n olynydd i George Entwistle.
Ymddiswyddodd Entwistle yn dilyn sgandal yr Arglwydd McAlpine a rhaglen Newsnight.
Mae’r Arglwydd Hall yn gyn-brif weithredwr y Tŷ Opera Brenhinol, a fe oedd yr unig un ofynnwyd iddo i gymryd yr awenau ar ôl i Entwistle adael.
Roedd e’n bennaeth ar adran newyddion a materion cyfoes y BBC o 1996 i 2001.
Mae e wedi treulio ei fore cyntaf wrth y llyw yn cyfarfod â staff y Gorfforaeth.
Dywedodd yr Arglwydd Hall: “Rwy wedi cyffroi wrth gael dod nôl i weithio lle dechreuais i fy ngyrfa yn y BBC.
“Mae’n gyfrifoldeb anferth cael bod yr unfed cyfarwyddwr cyffredinol ar bymtheg yn y BBC, ond y mae hefyd yn rhywbeth rwy’n gyffrous iawn yn ei gylch ac yn teimlo’n freintiedig amdano.
“Rwy wedi treulio cryn dipyn o amser dros yr wythnosau diwethaf, yn enwedig dros y penwythnos diwethaf, yn gwylio ac yn gwrando ar nifer fawr o raglenni a gwasanaethau a chynnwys, ac rwy’n tynnu fy het i’r bobol sy’n gweithio yn y lle yma.
“Mae’r hyn ry’n ni’n ei gynhyrchu yma’n anhygoel ac yn unigryw ac yn rhyfeddol iawn, iawn.
“Rwy’n falch iawn, iawn o gael arwain y BBC o’r foment hon ymlaen.”
Un o gyfrifoldebau cyntaf y pennaeth newydd fydd penodi Cyfarwyddwr Newyddion a Chyfarwyddwr Teledu newydd.
Mewn e-bost at staff y BBC, dywedodd yr Arglwydd Hall fod y Gorfforaeth yn “adennill ffydd”.
Ychwanegodd: “Rwy’n falch iawn o gael arwain y BBC wrth i ni ddechrau ar y bennod nesaf hon gyda’n gilydd.
“Rydyn ni wedi bod yn arloeswyr erioed. Wrth i ni symud tuag at ein canmlwyddiant, mae’n bryd i’r BBC fod yn hunanhyderus ac optimistaidd am y dyfodol.
Dywedodd fod “dyddiau gorau” y gorfforaeth eto i ddod.