Y Pâb Ffransis
Mae pennaeth theatr yng Ngwlad Pwyl wedi gorfod ymddiswyddo ar ôl galw’r Pâb newydd yn “bidlen”.
Ac mae Deon Prifysgol, a astudiodd y Gymraeg tra’n fyfyrwraig, wedi gorfod ymddiswyddo o’i swydd ar ôl llofnodi deiseb oedd yn galw am yr hawl i fynegi barn.
Roedd pennaeth cwmni theatr yn Poznań, Ewa Wójciak, wedi ysgrifennu’r geiriau ymfflamychol am y Pab Ffransis ar ei thudalen Facebook, gan arwain at feirniadaeth lem mewn gwlad sy’n parhau i fod yn driw iawn i’r Eglwys Gatholig.
Ar ôl i’r helynt dorri roedd yr Athro Zofia Kolbuszewska, oedd yn Ddeon ym Mhrifysgol Gatholig Lublin, wedi llofnodi deiseb oedd yn cefnogi hawl Ewa Wójciak i fynegi ei barn.
Mae’r Athro Kolbuszewska bellach wedi ymddiswyddo fel Deon ond yn parhau’n ddarlithydd yn adran Saesneg y Brifysgol Gatholig.
Rhwng 1978 a 2005 Pwyliad – Ioan Pawl II – oedd y Pab, ac mae’r eglwys yn ddylanwadol ym mywyd cymdeithasol a gwleidyddol Gwlad Pwyl.