Traffyrdd - "dim yn rhoi gwerth am arian"
Yn ôl elusen Sustrans bydd y ffordd ychwanegol yn costio £55m y flwyddyn i Lywodraeth Cymru ac yn fuddsoddiad sâl.

“Daw hyn ar ôl cyhoeddiad am dorri £8m i wasanaethau bysys,” meddai Matt Hemsley o Sustrans Cymru.

“Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod fod 40% o siwrneiau  ar hyd y darn yma o’r M4 yn rhai lleol, dan 20 milltir o hyd. Ffordd fwy cost effeithiol o leihau tagfeydd fyddai buddsoddi mewn trosglwyddo’r siwrneiau hyn i drafnidiaeth gyhoeddus.

“Trwy ei gwneud hi’n haws i bobol gerdded, seiclo a dal trafnidiaeth gyhoeddus gallwn leihau tagfeydd, gwella’n hiechyd ac arbed biliynau i’r economi,” meddai Matt Hemsley.