Anafiadau i’w brest laddodd ddau ddyn a gafodd eu cwrso gan yr heddlu ddiwedd yr wythnos ddiwetha’.
Roedd Gregory Jones, 38, a Shaka Henry, 33, ill dau’n dod o Islington, gogledd Llundain, ac fe fuon nhw farw yn Tottenham fore Gwener.
Fe gawson nhw’u lladd pan aeth y car Audi du yr oedden nhw’n teithio ynddo ar ei ben i mewn i bont, ar ôl mynd trwy olau coch a tharo fan wen ar y ffordd.
Fe geisiodd gyrrwr y car, 30 oed, ddianc o leoliad y ddamawain, ond fe gafodd ei arestio. Mae’n dal yn y ddalfa.
Yn ôl tystion, roedd yr heddweision wedi ceisio achub y ddau, ond fe fuon nhw farw yn y fan a’r lle.