Mae canran y di-waith ar draws gwledydd yr Ewro wedi aros ar ei bwynt ucha’ ers i’r arian ddod i rym yn 1999.

Mae swyddfa ystadegau Eurostat, fod y ganran yn ystod mis Chwefror wedi aros yn gyson ar yr uchafswm hwn. Fe gosodd y ganran i 12% ym mis Ionawr, o 11.9%.

Rhwng Ionawr a Chwefror, fe ymunodd 33,000 o bobol â rhengoedd y di-waith ar draws y 17 o wledydd sy’n defnyddio’r ewro.

Mae Sbaen a Groeg yn dal i ddiodde’ wrth i’w canran di-waith nhw aros uwchben 26%, ac mae llawer o wledydd eraill wedi gweld cynnydd yn y  nifer sydd heb swyddi.

Dydi ystadegau mis Chwefror ddim yn cynnwys effeithiau creisis ariannol Cyprus, achos sydd wedi ail-gynnau’r drafodaeth tros ddyfodol yr arian.