Mae gwasanaeth awyren newydd rhwng gwledydd Prydain a’r Iseldiroedd wedi dechrau heddiw.

Mae cwmni awyrennau KLM wedi dechrau heddfan ddwywaith y dydd o faes awyr Manston yng Nghaint drasodd i faes awyr Schiphol yn Amsterdam.

Mae gan yr awyrennau Fokker 70 seddau ar gyfer 80 o deithwyr, ac mae tocynnau dwy ffordd yn costio £79, yn cynnwys trethi.

“Am y tro cynta’, mae pobol fusnes yng Nghaint yn cael eu cysylltu’n uniongyrchol gyda hwb rhyngwladol,” meddai Charles Buchanan, prif weithredwr maes awyr Manston.