Mae Arlywydd Cyprus, Nicos Anastasiades wedi gofyn i’r Goruchel Lys ymchwilio i sut y bu bron i Gyprus fethdalu.
Dywedodd fod y bobol gyffredin am weld y sawl sy’n gyfrifol yn cael eu cosbi.
Gallai’r barnwyr ddechrau’r ymchwiliad drwy edrych ar drafodion busnes yr Arlywydd yntau.
Fe ofynnodd iddyn nhw ymchwilio i honiadau gan bapur newydd fod cwmni un o aelodau ei deulu wedi tynnu arian allan o fanc Laiki ddiwrnodau’n unig cyn y cytundeb i achub y banciau.
Mae buddsoddwyr ym manc Laiki yn wynebu colledion anferth yn dilyn y cytundeb.