Mae degau o filoedd o athrawon yn Denmarc wedi cael eu gwahardd o ysgolion, wedi i drafodaethau ynglyn ag oriau gwaith fethu â dwyn ffrwyth.
Mae undeb athrawon yr NUT yn dweud fod 52,000 o athrawon wedi eu cloi allan, sy’n golygu fod cannoedd o filoedd o blant yn methu mynd i’r ysgol.
Mae miloedd o athrawon wedi cynnal protestiadau ym mhob cwr o Ddenmarc.
Mae’r undeb wedi gwrthod derbyn cytundeb gwaith newydd sy’n rhan o gynlluniau i ad-drefnu ysgolion. Mae awdurdodau lleol eisiau ymestyn hyd y diwrnod ysgol, ac mae athrawon yn gwrthwynebu’n chwyrn.
Fe allai’r llywodraeth ganolog ymyrryd a gorfodi athrawon yn ôl i’r dosbarth, pe bai’r ddwy ochr yn methu â dod i gytundeb.