Cafodd dau ddyn yn eu hugeiniau hwyr eu lladd wedi i’r car yr oeddyn nhw’n teithio ynddo daro fan wen a mynd yn erbyn pont yn Ne Tottenham yn Llundain.
Roedd yr Audi coch yn cael ei erlid ar y pryd ar ôl i’r car yrru trwy olau coch yn ystod oriau mân y bore a gyrru heibio car yr heddlu ar frys.
Mae gyrrwr y car wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus a gyrru er ei fod wedi ei wahardd.
Dyw’r gyrrwr ddim wedi cael ei anafu yn ddifrifol a dyw’r heddlu ddim wedi enwi’r rhai fu farw.