Mae pob cartref ar Ynys Arran yn yr Alban bellach wedi cael y cyflewnad trydan yn ôl ar ôl bod heb drydan trwy’r tywydd garw am bron iawn i wythnos.

Mae cwmni SSE yn dweud bod eu peirianwyr wedi cysylltu llawer o’r tai i eneraduron dros dro ac y bydd y gwaith o atgyweirio’r rhwydwaith yn dechrau yn syth.

Dywedodd llefarydd y bydd hyn yn golygu y bydd angen diffodd y cyflenwad o bryd i’w gilydd ac mae rhai trigolion yn pryderu bod hyn yn mynd i gael effaith ar y miloedd o ymwelwyr fydd yn tyrru yno dros y Pasg.

Mae SSE yn bendant  na fydd yna broblemau dros yr ŵyl. Dywedodd llefarydd bod “pob generadur i’r gogledd o’r M25 wedi cael ei symud i Arran. Fydd yna ddim problem efo’r cyflenwad.”