Ail agorwyd Tŷ Dyffryn ym Mro Morgannwg i’r cyhoedd am y tro cyntaf ers 17 o flynyddoedd y bore yma.

Cafodd y safle ei atgyweirio a’i adfer diolch i £1 miliwn o Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Chadeirydd y Gronfa, Dr Manon Williams a Chyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Justin Albert wnaeth agor y Tŷ yn swyddogol.

“Mae’r Tŷ yn symbol o’n hetifeddiaeth ddiwydiannol,” meddai Dr Williams. “Bydd ailagor Tŷ Dyffryn yn golygu bod pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd yn cael gwybod am y stori ddiddorol, ac yn sicrhau bod y safle yn cyflawni ei botensial o fewn cymuned a diwydiant ymwelwyr de Cymru.”

Ychwanegodd Mr Albert fod yr Ymddiriedolaeth yn falch o’r gwaith ar y safle, gafodd ei drosglwyddo iddyn nhw yn ddiweddar.

Dywedodd “Mae hyn yn gam pwysig arall yn ein hymgais i sicrhau fod Gerddi a Thŷ Dyffryn yn un o brif atyniadau Cymru ac yn lle arbennig ar gyfer pawb.”