Mae Cyngor Abertawe yn cynnig can punt i bob teulu sy’n cytuno i roi’r gorau i ddefnyddio clytiau papur ar gyfer eu babanod a throi at ddefnyddio cewynnau y gellid eu golchi
Mae llefarydd ar ran y cyngor wedi dweud y gall rhai teuluoedd arbed hyd at £500 wrth olchi clytiau yn lle eu taflu.
Mae cewynnau papur yn creu 4% o wastraff teuluol yng Nghymru gan fod 200 miliwn yn cael eu taflu yn flynyddol.
Gall y plastig sy’n rhan o’r cewynnau yma gymeryd hyd at 500 o flynyddoedd i bydru.
Cyd-weithio efo ymgyrch ‘Real Nappy’
Mae Cyngor Abertawe yn cyd-weithio efo ymgyrch ‘Real Nappy’ er mwyn darbwyllo rhieni i newid eu clytiau.
Dywedodd Swyddog Ail-gylchu Cyngor Abertawe, Trish Flint mai nod yr ymgyrch yw tanlinellu y manteision o ddefnyddio clytiau y gellid eu golchi.
“Mae rhai yn credu bod cewynnau go iawn yn fudr ac yn golygu llawer o waith. Mae peiriannau golchi wedi gwneud bywyd yn llawer haws i rieni ac fe allen nhw ddefnyddio leinin pydradwy sy’n gallu cael ei olchi i lawr y toilet,” meddai.
Gall rhieni gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a chofrestru i dderbyn siec o £100 trwy gysylltu efo’r cyngor.