Protest yn Benghazi
Mae tair merch o Brydain mewn cyflwr drwg yn Libya ar ôl iddyn nhw gael eu treisio yn Benghazi yn nwyrain y wlad.
Mae’r dair o dras Pacistanaidd ac wedi bwriadu teithio efo dau ddyn o Bacistan i Gaza. Fe wnaethon nhw ail-feddwl a phenderfynu dod adref i Brydain pan gawson nhw eu herwgipio dydd Mawrth.
Dywedodd dirprwy Brif Weinidog Libya, Awsad al-Barassi ei fod wedi gweld y dair a’u bod “mewn cyflwr drwg iawn”. Mae’n amau mai milisia sy’n gefnogol i’r llywodraeth sy’n gyfrifol.
Cadarnhaodd y Swyddfa Dramor eu bod yn ymwybodol o’r digwyddiad ac mae llefarydd ar ran Swyddfa Dramor Pacistan, Aizaz Ahmad Chaudhry wedi condemnio’r hyn ddigwyddodd ac yn dweud eu bod mewn cysylltiad efo’r awdurdodau yn Libya.