Mae Heddlu Cumbria wedi arestio gwraig 42 oed o Carlisle ar amheuaeth o esgeuluso plentyn trwy ei gadael y tu allan i dŷ yn y dref.

Roedd yr heddlu wedi cychwyn chwilio am ddynes ar ôl iddi ganu cloch tŷ yn Ffordd Warwick a dianc yn hwyr iawn neithiwr.

Fe wnaeth y trigolion alw’r heddlu ddaeth o hyd i’r plentyn mewn pram.

Mae’r ddynes yn cael ei holi gan yr heddlu ac mae’r ferch fach yn ddiogel ac yn iach yng ngofal yr awdurdodau.