Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May wedi colli ei hapêl yn erbyn penderfyniad i adael i’r clerigwr Abu Qatada aros ym Mhrydain.

Dywedodd cyfreithwyr ar ei rhan fod Qatada yn ddyn “gwirioneddol beryglus” oedd wedi osgoi cael ei alltudio oherwydd nifer o ffaeleddau cyfreithiol.

Penderfynodd y Comisiwn Apeliadau ym mis Tachwedd nad oedd modd alltudio Qatada i Wlad yr Iorddonen oherwydd ei fod mewn perygl o gael ei arteithio pe bai’n wynebu achos llys newydd yn y wlad.

Cafodd apêl Theresa May ei wrthod yn unfrydol.

Apêl arall

Dywedodd y Swyddfa Gartref mewn datganiad fod yr adran yn bwriadu cyflwyno apêl arall.

“Nid dyma ddiwedd y daith, ac mae’r Llywodraeth o hyd yn benderfynol o alltudio Abu Qatada.

“Byddwn ni’n ystyried y dyfarniad hwn yn ofalus ac rydym yn bwriadu ceisio am yr hawl i apelio.

“Yn y cyfamser rydym yn parhau i weithio gyda phobol yr Iorddonen i fynd i’r afael â’r materion cyfreithiol sy’n weddill sy’n atal y broses alltudio.”