Mae Ceidwadwyr yr Alban yn ystyried rhoi mwy o bwerau i’r Alban fel alternatif i annibyniaeth pan ddaw’r refferendwm ar Fedi 18 y flwyddyn nesaf.

Yn ôl papur y Scotsman mae David Cameron yn cefnogi ffurfio grŵp o arbenigwyr yn yr Alban er mwyn edrych ar ddatganoli mwy o bwerau i Holyrood.

Roedd arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, Ruth Davidson, wedi dweud fod Deddf yr Alban 2012, sy’n caniatáu rhai pwerau trethu, yn “tynnu llinell yn y tywod” o ran datganoli mwy o rym ond mae’n debyg ei bod hi bellach o blaid mwy o rymoedd.

Yn ôl Ruth Davidson mae angen i’r Ceidwadwyr gael llais yn y broses ddatganoli. Gwrthodon nhw gymryd rhan mewn confensiwn cyfansoddiadol yn yr Alban yn y 1990au ac mae’r pleidiau unoliaethol wedi cael eu beirniadu am beidio cynnig cynlluniau ar gyfer pleidlais Na y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Annabelle Ewing o’r SNP fod y Toriaid wedi eu “rhannu’n llwyr” ar fater datganoli pellach ac ond yn awyddus i ystyried y mater am fod refferendwm ar y gorwel.