Bydd teithwyr ar longau fferi ar y Sianel yn wynebu oedi mawr dros y Pasg oherwydd streic gan swyddogion yn Ffrainc sy’n rheoli’r porthladdoedd.

Mae’r streic yn dechrau am 7am bore fory, ac mae disgwyl i’r oedi bara tan ddydd Gwener.

Bydd teithiau P&O yn cael eu heffeithio fwyaf.

Mae disgwyl oedi mawr ar deithiau i Calais, Dunkirk, Dieppe a Cherbourg, ond fe ddylai teithiau i Le Havre fynd yn eu blaenau fel arfer.

Cafodd cwsmeriaid P&O wybod am yr oedi, a chael dewis teithio’n gynt neu newid eu cynlluniau fel eu bod nhw’n teithio ar ôl i’r streic ddod i ben.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni fferi P&O: “Rydyn ni’n cynghori, yn dilyn methiant trafodaethau ynghylch cyflogau ddoe ym Mharis, y bydd swyddogion rheoli porthladdoedd Ffrainc yn cynnal diwrnod o weithredu diwydiannol sy’n debygol o effeithio ar y rhan fwyaf o borthladdoedd Ffrainc.”

Ar hyn o bryd, mae’r math o weithredu fydd yn digwydd yn aneglur, ac fe allai atal gwasanaethau dros dro neu’n gyfan gwbl am gyfnod o 24 awr, meddai’r llefarydd.

Ychwanegodd y dylai teithwyr ddod â bwyd a diod gyda nhw rhag ofn y byddan nhw’n aros am gyfnodau hir cyn teithio.