Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i ferch 14 oed y credir iddi gael ei lladd gan bedwar o gŵn oedd “yn ymosodol ac allan o reolaeth”.

Cafodd corff Jade Anderson ei ddarganfod mewn tŷ yn Atherton ger Wigan toc wedi 2yh ddoe, yn dilyn adroddiadau ei bod hi’n anymwybodol.

Roedd ei hanafiadau yn awgrymu bod y cŵn wedi ymosod arni.

Mae’n debyg bod Jade Anderson wedi bod yn ymweld â’r tŷ yn Chaucer Grove ac wedi cael ei gadael ar ei phen ei hun gyda’r cŵn a gafodd eu saethu’n farw gan yr heddlu yn ddiweddarach.

Mae ffrindiau wedi bod yn rhoi teyrnged i’r ferch “dawel” a “swil”. Credir ei bod wedi dychwelyd i’r tŷ ar ôl bod i’r siopau i brynu pastai pan ymosodwyd arni.

Roedd disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal neithiwr.