Carwyn Jones
Mae risgiau sylweddol i Gymru mewn torri’r cwlwm rhyngddi a’r Deyrnas Gyfunol medd Prif Weinidog Cymru mewn araith heno.
Yng nghynhadledd y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol yng Nghaerdydd mae disgwyl i Carwyn Jones atgyfnerthu ei ymrwymiad i’r Undeb ble mae “costau, manteision a risgiau trethi a lles cymdeithasol yn cael eu cydgrynhoi,” medd Carwyn Jones.
“Rydyn ni’n ystyried bod hyn yn rhan hanfodol o’n dinasyddiaeth Brydeinig gyffredin. Ni fyddai torri’r cwlwm hwn yn cynnig unrhyw fanteision i bobl Cymru. I’r gwrthwyneb, byddai’n golygu risgiau sylweddol i ni.”
Rhagor o bwerau
Ond dywed Carwyn Jones ei fod am weld datganoli rhagor o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn gwella atebolrwydd i bobol Cymru. Yn ei araith bydd awgrym ei fod am weld yr hyn mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano, sef model datganoli tebyg i’r Alban ble mae’r senedd yn Holyrood yn dal y pwerau dros bob mater sydd heb eu heithrio gan y ddeddf.
“Rydyn ni’n credu y dylid cael rhagdybiaeth o blaid datganoli fel mai yng Nghaerdydd y caiff penderfyniadau eu gwneud am faterion Cymru, oni bai bod rheswm da yn ymarferol neu o safbwynt polisi dros beidio,” medd Carwyn Jones.
Cyfrifoldeb = cyllid
Gyda chyfrifoldeb fe ddylai Cymru gael mwy o gyllid hefyd, medd Carwyn Jones
“Mae’n rhaid bod yn deg drwy drosglwyddo cyllid wrth drosglwyddo cyfrifoldeb o un llywodraeth i’r llall. Ni allai llywodraeth synhwyrol awgrymu unrhyw beth gwahanol.”
Mae’n bosib y bydd Carwyn Jones yn annerch aelodau ei blaid ei hun heno yn gymaint â’r cynadleddwyr. Mae yna sôn fod adain fwy Prydeinig y Blaid Lafur yng Nghymru, gan gynnwys nifer o Aelodau Seneddol, yn anhapus iawn fod Llywodraeth Cymru wedi galw am ddatganoli pwerau’r heddlu i Gymru.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno tystiolaeth i Gomisiwn Silk ar ddatganoli nid yw Plaid Lafur Cymru wedi gwneud hynny.