Mae darn fideo sy’n dangos dyn 20 stôn o Sir Benfro yn cicio pêl yn gelfydd tu hwnt wedi denu dros 1.2 miliwn o wylwyr.

Mae Andrew Cassidy, 50 oed o Aberdaugleddau, wedi bod yn cicio pêl er mwyn difyrru ei hun ar ôl i’w waith ar long bysgota ddod i ben.

Eisoes mae’n cael ei ddisgrifio fel y Maradona Cymreig.