Mae streic gan lanhawyr ar drenau Arriva Cymru wedi cael ei gohirio am yr ail waith tra bod y gweithwyr yn ystyried cynnig newydd.

Roedd disgwyl i aelodau o undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth (RMT), sy’n cael eu cyflogi gan Churchill’s, gynnal streic yfory.

Cafodd streic arall oedd i’w chynnal ar yr un diwrnod a’r gêm rygbi rhwng Cymru a Lloegr yn gynharach yn y mis hefyd ei gohirio.