Mae merch 15 oed wedi cael ei darganfod yn farw mewn tŷ lle cafwyd hyd i bump o gŵn oedd “yn ymosodol ac allan o reolaeth”.
Dywed Heddlu Manceinion eu bod nhw wedi cael eu galw i’r tŷ yn Atherton, Wigan toc wedi 2yh heddiw yn dilyn adroddiadau bod y ferch yn anymwybodol a bod nifer o gŵn allan o reolaeth.
Mae pedwar o’r cŵn wedi cael eu difa.
Dyw’r heddlu heb gadarnhau pa fath o gŵn oedd yn y tŷ.
Dywed yr heddlu ei bod “yn rhy gynnar i ddyfalu” beth ddigwyddodd ac mae’r ymchwiliad yn parhau.