Mae adroddiad ar ffurfio rhanbarth economaidd bob ochr i lannau Dyfrdwy wedi dod i’r casgliad fod y ffin yn anweledig i drigolion a busnesau’r ardal.
Mewn adroddiad annibynnol a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru dywed Dr Elizabeth Haywood nad yw trigolion, ymwelwyr na busnesau yn gweld y ffin rhwng gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.
“Y farn yn aml yw mai gwleidyddion a ffiniau gweinyddol yw’r rhwystr,” medd yr adroddiad, sy’n argymell mwy o gydweithio traws-ffiniol.
Daeth adroddiad arall yn 2012 i’r casgliad nad oedd fawr o awydd ffurfio un rhanbarth economaidd yng ngogledd-ddwyrain Cymru a gorllewin Caer, yn arbennig gan gynrychiolwyr ar ochr Lloegr i’r ffin. Ond mynegodd rhai aelodau Cynulliad yr ardal eu siom gan ofyn i Weinidog yr Economi ail-edrych ar y dystiolaeth.
Mae’r rhai sydd o blaid yn dadlau byddai cydnabod y rhanbarth fel dinas-ranbarth yn fuddiol iddi wrth gystadlu’n economaidd gyda rhanbarthau eraill ac wrth ddenu nawdd Ewropeaidd.
Llif cyson o bobol ar draws y ffin
Yn ôl adroddiad Dr Elizabeth Haywood, cyn-gyfarwyddwr CBI Cymru a gwraig Aelod Seneddol Castell Nedd Peter Hain, mae llif cyson ar draws ffin gogledd-ddwyrain Cymru a Lloegr.
Mae 17,000 yn teithio i’r gwaith bob dydd o Gymru i ardal Caer, a 10,000 yn teithio i’r cyfeiriad arall.
“Mae’r llif traws-ffiniol o bobol yn golygu nad yw trigolion (na chwaith ymwelwyr) yn ‘gweld’ y ffin,” medd yr adroddiad.
“Maen nhw’n ei chroesi heb feddwl amdani p’un ai am resymau gwaith neu hamdden.”
‘Embaras ar ochr Cymru’
Ond mae’r adroddiad yn cydnabod fod yna deimlad o “embaras” ar ochr Cymru’r ffin am eu cyswllt gyda gogledd orllewin Lloegr.
Dywed Dr Elizabeth Haywood nad oes un hunaniaeth gyffredin i’r rhanbarth, ar wahân i gryfder y sector gynhyrchu yn lleol.
Daw i’r casgliad nad yw ardal Dyfrdwy yn ddinas-ranbarth go iawn, am fod y brif dref, Caer, yn rhy fach o gymharu gyda dinasoedd mawr rhanbarthol eraill, ond na ddylai hynny “dynnu oddi wrth gryfder a photensial y rhanbarth, a ddylai gael eu cydnabod ar lefel llywodraethau Cymru a Phrydain,” meddai.
“Mae’n unigryw yn y Deyrnas Gyfunol am ei natur draws-ffiniol.”
Mae’n argymell cryfhau Cynghrair Mersi Dyfrdwy a chynnwys mwy o aelodau o fyd busnes ac addysg yn y Gynghrair. Mae hefyd yn argymell llunio Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraethau Cymru a Lloegr ar gynllunio trafnidiaeth drawsffiniol a materion rhanbarthol eraill.