Bydd Leyton Orient yn apelio yn erbyn y penderfyniad i roi tenantiaeth y Stadiwm Olympaidd i West Ham.
Dywedodd cadeirydd y clwb o ddwyrain Llundain, Barry Hearne, fod y clwb yn bwriadu apelio i’r Uchel Lys.
Roedd y tîm sy’n chwarae yn yr Adran Gyntaf wedi gobeithio cael rhannu’r stadiwm gyda’r clwb sy’n cystadlu yn yr Uwch Gynghrair.
Ond daeth cadarnhad fore Gwener mai West Ham fydd unig denantiaid y stadiwm.
Panig ar strydoedd Llundain?
Dywedodd cadeirydd Leyton Orient, Barry Hearne wrth Talksport: “Wn i ddim pam eu bod nhw’n cyhoeddi unrhyw beth oherwydd rydyn ni wedi apelio i’r Uchel Lys am adolygiad barnwrol o’r broses geisiadau felly mae’n rhaid i unrhyw beth maen nhw’n ei gyhoeddi am West Ham fod yn ddarostyngedig i benderfyniad yr Uchel Lys.
“Mae’r ffaith eu bod nhw’n ceisio prysuro’r cyhoeddiad heddiw, cyn penderfyniad y llys, yn arwydd i fi o banig.
“Wn i ddim pam eu bod nhw’n gwneud hynny.
“Dy’n ni ddim yn credu ein bod ni wedi cael rhoi cynnig teg arni. Dy’n ni ddim wedi cael unrhyw gyfle i drafod rhannu’r cae gyda West Ham, sef yr unig ffordd synhwyrol allan o’n rhan ni.
“Pa niwed wnawn ni? Fe gawn ni gyfle i oroesi.
“Mae’n llawer gwell gofalu am glybiau fel Leyton Oient na bod trethdalwyr y wlad hon yn ariannu West Ham, endyd masnachol gydag incwm o £100 miliwn yn dod trwy hawliau teledu a.y.b.
“Pam ydyn ni’n plygu drosodd ar gyfer West Ham, ond ddim yn plygu drosodd o gwbl ar gyfer Leyton Orient?”