Mae gwasanaethau brys yng Nghernyw yn chwilio drwy dŷ sydd wedi dymchwel yn y tywydd garw, am eu bod nhw’n credu fod corff gwraig y tu mewn.
Nid yw Susan Norman, sydd yn ei 60au, wedi ei gweld heddiw ac mae ei fflat lawr isaf yn nhref Looe wedi ei dymchwel gan dirlithriad a achoswyd gan law trwm.
Mae trigolion cyfagos wedi eu symud.
“Nid yw’r criw wedi gallu myned i mewn i’r adeilad yn ddiogel,” meddai Dave King o Wasanaeth Tân ac Achub Cernyw.
“Mae ein hymchwil cynnar ni’n awgrymu ei bod hi y tu mewn.”