Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, wedi brolio mai cwmni Cymreig sydd wedi cael y gwaith o adeiladu ysgol newydd gwerth £10 miliwn ym Môn.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £7 miliwn at godi Ysgol y Bont yn Llangefni.

Heddiw, ar ei hymweliad â’r safle sy’n agor ddiwedd 2013, dywedodd fod “buddsoddi mewn seilwaith a chefnogi sector adeiladu Cymru yn sicrhau bod Cymru yn hybu’r economi”.

Dechreuodd y gwaith o adeiladu’r ysgol gwerth £10 miliwn yn haf 2012.

Cyngor Sir Ynys Môn sy’n buddsoddi’r £3 miliwn ychwanegol.

Bydd y safle hefyd yn hwb i’r gadwyn gyflenwi a hyfforddiant ar gyfer pobol leol.

Y cwmni lleol, Wynne Construction sydd â’r cyfrifoldeb o godi’r ysgol newydd, ac felly maen nhw’n rhagdybio bod 83% o’r swyddi sydd wedi cael eu creu yn sgil y gwaith adeiladu wedi cael eu rhoi i bobol leol.

Mae pum prentis yn gweithio ar y prosiect, ac fe ddaeth cyfle i fyfyrwyr chweched dosbarth gael profiad gwaith yn yr ysgol pan fydd hi’n agor.

‘Enghraifft dda o bolisi caffael Cymru’

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt: “Ein prif flaenoriaeth yw sicrhau bod yr economi yn tyfu a chreu swyddi.

“Rwyf wrth fy modd cael ymweld ag Ysgol y Bont i weld y buddion a ddaw yn sgil ein buddsoddiad o £7 miliwn yn y cyfleuster modern hyfryd hwn.

“Bydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i ddisgyblion yr ysgol a’u teuluoedd.

“Mae prosiect Ysgol y Bont yn enghraifft dda o bolisi caffael Cymru ar waith – ac mae’n dangos sut rydyn ni’n hybu’r economi drwy fuddsoddi mewn seilwaith, creu swyddi a sicrhau buddion cymunedol sylweddol.

“Ac rwy’n benderfynol o sicrhau ein bod yn gwneud rhagor. Rydw i wedi gofyn i’r Grŵp Llywio Caffael Adeiladu ddatblygu Strategaeth Gaffael ar gyfer Adeiladu a bydd hyn yn helpu i sicrhau bod polisi caffael y cytunir arno ar gyfer Cymru yn cael ei gynnwys ym mhob prosiect adeiladu.”