Greg Dyke
Cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Greg Dyke fydd Cadeirydd newydd Cymdeithas Bêl-Droed Lloegr.

Mae’n olynu David Bernstein sy’n gadael ei swydd ym mis Gorffennaf.

Fe fydd yn rhaid i Greg Dyke adael ei swydd yntau fel cadeirydd Clwb Pêl-Droed Brentford i ymgymryd â’i rôl newydd. Yn y gorffennol bu’n un o gyfarwyddwyr Manchester United.

Dywedodd Greg Dyke: “Bu pêl-droed yn rhan fawr o’m bywyd i erioed, boed yn chwarae 11 bob ochr ar fore Sul neu chwech bob ochr nos Iau.

“Ces i fy magu mewn cartref lle’r oedd gan fy nhad lawer mwy o ddiddordeb a oeddech chi wedi ennill wrth chwarae pêl-droed nag a oeddech chi wedi pasio’ch arholiadau.”

Pleidleisiodd Bwrdd y Gymdeithas yn unfrydol o blaid y cadeirydd newydd, a thra bod Cyngor y Gymdeithas yn cymeradwyo’r penodiad bydd yn dechrau ar ei waith ar Orffennaf 13.