Nos yfory fe fydd y Gweilch yn croesawu’r Dreigiau i Stadiwm y Liberty.
Mi fydd Ross Wardle o glwb rygbi Bedwas, yn gwneud ei ddechreuad gyntaf i’r Dreigiau yn y gystadleuaeth RaboDirect Pro12.
Mae’r chwaraewr 21 oed yn astudio gradd fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd ac wedi arwyddo cytundeb blwyddyn gyda’r Dreigiau.
‘‘Rwy’n hynod o gyffrous i gael fy newis i’r gêm y penwythnos yma. Yn amlwg mewn gêm ddarbi, rwy’n gobeithio y byddaf yn gallu rhoi perfformiad da ac yn dangos i bawb yr hyn rwyf yn gallu ei wneud ar y cae,’’ meddai Wardle.
Lydiate yn ôl
Mae’r Dreigiau wedi gwneud newidiadau i’w reng-ôl, gyda Dan Lydiate yn dychwelyd ar ôl ei anaf hir dymor ac yn safle’r blaen asgellwr, a Chapten y Dreigiau Lewis Evans yn symud i safle’r wythwr. Hefyd mi fydd Andrew Coombs yn dychwelyd i’w dîm rhanbarthol yn yr ail reng.
Mae’r Gweilch wedi enwi chwe chwaraewr o dîm Cymru a gurodd Lloegr y penwythnos diwethaf.
Mi fydd Dan Biggar, Richard Hibbard, Adam Jones, Alun Wyn Jones, Ian Evans a Justin Tipuric i gyd yn dechrau nos yfory.
‘‘Rwyf wedi siarad â nhw i gyd yn unigol, a’r peth braf yw y mae pob un eisiau chwarae,’’ meddai Steve Tandy rheolwr y Gweilch.
Tîm y Gweilch
OLWYR: Richard Fussell, Tom Habberfield, Jonathan Spratt, Ashley Beck, Tom Isaacs, Dan Biggar, Kahn Fotuali’i
BLAENWYR: Ryan Bevington, Richard Hibbard, Adam Jones, Alun Wyn Jones (Capt), Ian Evans, James King, Justin Tipuric, Jonathan Thomas
EILYDDION:
Scott Baldwin, Duncan Jones, Dmitri Arhip, Lloyd Peers, George Stowers, Rhys Webb, Matthew Morgan, Ben John
Tîm y Dreigiau
OLWYR: Dan Evans, Adam Hughes, Pat Leach, Jack Dixon, Ross Wardle, Steffan Jones, Wayne Evans;
BLAENWYR: Owen Evans, Sam Parry, Nathan Buck, Andrew Coombs, Adam Jones, Dan Lydiate, Nic Cudd, Lewis Evans (c).
EILYDDION: Hugh Gustafson, Phil Price, Dan Way, Ian Nimmo, Toby Faletau, Jonathan Evans, Will Harries, Hallam Amos.