Stadiwm Liberty
Mae prif noddwr Clwb Pêl-droed Abertawe, 32Red wedi cytuno i dynnu allan o’r cytundeb presennol er mwyn i’r clwb ddod o hyd i noddwr newydd.
Roedd blwyddyn yn weddill ar y cytundeb presennol, ond cytunodd y ddwy ochr i ddod â’r cytundeb i ben er mwyn i’r clwb ddod o hyd i noddwr newydd i helpu gyda’r gwaith o ddatblygu Stadiwm Liberty.
Ni fydd manylion blwyddyn olaf y cytundeb yn cael eu gwneud yn gyhoeddus.
Dywedodd prif weithredwr 32Red, Ed Ware: “Bu’n berthynas wych gyda’r Elyrch.
“Mae ein perthynas wedi cyd-daro gyda chyfnod mwyaf llwyddiannus Abertawe hyd yma.
“Byddwn ni’n edrych yn ôl ar y berthynas mewn ffordd hoffus ac yn dymuno pob lwc i’r clwb ar gyfer y dyfodol.
‘Cyfleoedd cyffrous’
Dywedodd is-gadeirydd yr Elyrch: “Hoffwn nodi bod y clwb yn ddiolchgar dros ben am y gefnogaeth mae 32Red wedi’i rhoi i ni ar hyd y pedair blynedd diwethaf.
“Bu’n bleser delio gyda nhw ac maen nhw wedi chwarae rhan bwysig yn ein cynnydd ni.
“Rwy’n teimlo bod gyda ni gyfleoedd cyffrous yn y farchnad ac rydym wedi cytuno i ddod â’r cytundeb gyda 32Red i ben flwyddyn yn gynnar ac ar delerau cyfeillgar.”