Chris Coleman
Nid oes gan chwaraewr canol cae Crystal Palace Jonathan Williams, unrhyw amheuaeth o ddewis Cymru cyn Lloegr wrth iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf i dîm Chris Coleman.
Er nad yw’r chwaraewr 19 oed wedi ennill ei gap gyntaf eto, mae’n dal yn gymwys i gynrychioli Lloegr.
‘‘Nid wyf wedi clywed unrhyw beth gan Loegr, ond dwi’n amau dim, gan fod Cymru wedi rhoi’r cyfle i mi, ac yr wyf wedi mwynhau pob munud,’’ meddai Jonathan Williams.
‘‘Cefais fy ngeni yn Lloegr, ond fe wnaeth Cymru fy newis i chwarae ar eu cyfer yn fachgen ifanc, a fy newis i oedd cynrychioli Cymru,’’ ychwanegodd.
Torrodd Williams ei goes yn 2011 tra’n chwarae i Gymru dan 21 oed yn erbyn Armenia.
Ond cafodd ei ysbrydoli gan chwaraewr canol cae Arsenal, Aaron Ramsey, wedi iddo ddod yn ôl o’i anaf arswydus yn 2010, ac wedi gwella yn sylweddol o’i anaf.