Gareth Bale
Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman wedi dweud ei fod yn gobeithio na fydd chwaraewyr yr Alban yn defnyddio tactegau brwnt wrth geisio atal Gareth Bale yn y gêm rhwng y ddwy wlad nos yfory.

Fe wnaeth rheolwr Dundee, John Brown,  sylwadau’n awgrymu y dylai’r Albanwyr geisio anafu Bale.

‘‘Ni all rhedeg heb ei goesau,’’ meddai John Brown.

‘‘Os gallwch chi ddileu’r bygythiad mwyaf, mae gennych gyfle,’’ ychwanegodd.

Mae Coleman wedi gwrthod unrhyw awgrymiadau y bydd yr Albanwyr yn defnyddio tactegau brwnt o dan reolaeth Gordon Strachan yn ei gêm gyntaf fel rheolwr i’r Alban nos yfory.

Nid yw Bale wedi ymarfer yn ystod y ddau ddiwrnod diwethaf ar ôl anafu ei bigwrn dros y penwythnos.