George North
Rhaid i Undeb Rygbi Cymru ddod i’r parti os ydyn nhw am gadw’r chwaraewyr gorau yng Nghymru.
Dyna ddywedodd seren Cymru a’r Llewod, Gareth Edwards wrth Golwg360 wrth ymateb i’r newyddion y gallai asgellwr y Scarlets a Chymru, George North, ymuno â chlwb Northampton y tymor nesaf.
Cadarnhaodd asiant North yn gynharach heddiw fod y chwaraewr a’r clwb mewn trafodaethau.
Dywed Gareth Edwards mai llwyddiant y tîm cenedlaethol yw un o’r prif resymau am y sylw sy’n cael ei hawlio gan y chwaraewyr.
“Mae pob un yn mynd o fewn golwg timau Lloegr achos y ffordd maen nhw’n whare.
“Allwn ni ddim fforddio’u cadw nhw wedyn.
“Rhaid i Undeb Rygbi Cymru ddod i’r parti os y’n nhw am gadw’r chwaraewyr yma, ond dy’n nhw jyst ddim yn barod i wneud ’ny.
“Mae mwy a mwy o chwaraewyr yn mynd i fynd.
“Ry’n ni wedi bod lawr yr heol yma o’r blaen ac rwy’n dechrau mynd i ddiflasu am y peth.”