David Vaughan
Ni fydd chwaraewr canol cae Cymru, David Vaughan ar gael ar gyfer taith Cymru i Barc Hampden nos Wener oherwydd anaf.

Chwaraeodd Vaughan yn nwy gêm ddiwethaf Cymru – y fuddugoliaeth dros Yr Alban o 2-1 a’r golled o 2-0 yn erbyn Croatia fis Hydref diwethaf yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Mae disgwyl iddo ymuno â’r garfan ar gyfer yr ornest yn erbyn Croatia yn Stadiwm Liberty nos Fawrth nesaf.

Mae Joe Allen a Steve Morrison hefyd allan o’r garfan, ac mae Gareth Bale wedi anafu ei droed.

Ond mae disgwyl i Bale fod yn holliach ar gyfer y ddwy gêm.

Dywedodd cyn-gôl-geidwad Cymru, Neville Southall yn gynharach heddiw ei fod yn disgwyl i’r rheolwr Chris Coleman golli ei swydd pe bai Cymru’n colli yn erbyn Yr Alban.