Buddugoliaeth Cymru ddydd Sadwrn
Mae Lloegr wedi gwneud cwyn i’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol am berfformiad y dyfarnwr Steve Walsh yn y grasfa yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

Cafodd Lloegr eu curo ym mhob agwedd o’r gêm ac mae hyfforddwr blaenwyr y Saeson, Graham Rowntree, wedi mynegi ei anfodlonrwydd gyda dehongliad Steve Walsh o’r rheolau.

“Sefais i ar lawr nos Sadwrn a gwylio’r gêm yn ddadansoddol,” meddai Rowntree, a fu’n brop i Loegr.

“Rwy’n anfodlon gyda rhai o’r penderfyniadau a bydda i’n siarad gyda’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol er mwyn cael eglurhad.”

Mae Lloegr wedi dweud fod y sgrymiau, a’r modd rhwygodd Ken Owens y bêl wrth y Saeson ar gyfer cais cyntaf Alex Cuthbert, wedi bod yn dyngedfennol.

Mae hanes o anghydweld rhwng Lloegr a’r dyfarnwr Steve Walsh, sy’n dod o Seland Newydd yn wreiddiol ond sydd bellach yn cynrychioli undeb rygbi Awstralia.

Mae cyn-chwaraewr Lloegr Austin Healey, a wnaeth bet gyda “phawb yng Nghymru” y byddai Lloegr yn ennill, wedi honni trannoeth y fuddugoliaeth ei fod wedi tynnu’r bet yn ôl ar ôl deall mai Steve Walsh oedd y dyfarnwr.