Casnewydd 1–2 Kidderminster

Collodd Casnewydd gyfle i gau’r bwlch ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square wrth golli yn erbyn Kidderminster ar Rodney Parade nos Fawrth.

Gan i gêm Wrecsam a Mansfield gael ei gohirio roedd gan Gasnewydd gyfle i gau’r bwlch ar y tri uchaf wrth groesawu Kidderminster a oedd yn drydydd ar ddechrau’r noson. Ond er i Andy Sandell unioni i’r Cymry yn dilyn gôl agoriadol Michael Gash, fe adferodd Cheyenne Dunkley y fantais yn yr eiliadau olaf i ennill y gêm i’r ymwelwyr.

Casnewydd  a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf a bu rhaid i Daniel Lewis yn y gôl i Kidderminster wneud sawl arbediad i gadw ei dîm yn y gêm.

Yr ymelwyr serch hynny aeth ar y blaen wedi 27 munud pan gafodd gôl-geidwad Casnewydd, Lenny Pidgeley, ei guro gan Gash wedi i Anthony Malbon ei ganfod yn y cwrt cosbi.

Parhau i bwyso a wnaeth Casnewydd wedi hynny ac roeddynt yn gyfartal o fewn tri munud yn dilyn ergyd gywir Sandell i’r gornel isaf o ochr y cwrt cosbi.

Rheolodd Casnewydd y meddiant yn yr ail hanner hefyd gan greu’r gorau o’r cyfleoedd eto ond aros yn gyfartal a wnaeth hi tan yr eiliadau olaf pan gipiodd Dunkley’r pwyntiau i gyd i Kidderminster gyda gôl yn yr ail funud o’r amser a ganiateir am anafiadau.

Tor calon i Gasnewydd felly a chnoc go iawn i’w gobeithion o ddyrchafiad uniongyrchol. Maent yn aros yn bedwerydd yn y tabl gyda Kidderminster yn codi i’r brig gan i gêm Wrecsam a Mansfield gael ei gohirio.

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, James, Yakubu, Anthony, Pipe, Minshull, Sandell, Flynn (Thomson 19′), Jolley, Donnelly, O’Connor

Gôl: Minshull 30’

Cardiau Melyn: Flynn 11’, Pipe 41’, Minshull 90’

.

Kidderminster

Tîm: Lewis, L. Vaughan, Demetriou, Dunkley, Gowling, Vincent, Pilkington (Gittings 64’), Jackman, Briggs (Johnson 46’), Malbon, Gash

Goliau: Gash 27’, Dunkley 90’

Cardiau Melyn: Briggs 18’, Malbon 36’, Dunkley 81’, Vaughan 87’

.

Torf: 2,652