Cae Ras, Wrecsam
Mae gêm bwysig Wrecsam yn erbyn Mansfield heno yn y Gyngres wedi cael ei gohirio oherwydd y tywydd.
Gwnaeth y dyfarnwr Peter Bankes y penderfyniad yn dilyn eira a glaw trwm dros y diwrnodau diwethaf.
Mae rhannau o’r Cae Ras o dan ddŵr, yn ôl y dyfarnwr.
Ac fe gafodd yr ymdrechion i sychu’r cae eu niweidio gan haenen o eira dros nos.
Roedd y clwb wedi gobeithio amser cinio y byddai modd i’r gêm fynd yn ei blaen.
Ond daeth rhagor o law i gau pen y mwdwl ar y gobeithion.
Dywedodd datganiad ar wefan y clwb fod y gohirio’n golygu bod ganddyn nhw broblem o ran y rhestr gemau.