Alex Salmond
Fe fydd Prif Weinidog yr Alban Alex Salmond yn cyhoeddi heddiw ddyddiad y refferendwm ar annibyniaeth.

Mae Llywodraeth SNP yr Alban wedi dweud eisoes y bydd y refferendwm rywbryd yn yr hydref 2014 ac mae disgwyl i Fil Refferendwm, fydd yn rhoi manylion y bleidlais, gael ei gyflwyno heddiw hefyd.

Mae Dirprwy Brif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon yn ymweld â phrentisiaid peirianneg dur yn Renfrewshire heddiw a byddan nhw’n weldio dyddiad y refferendwm at ei gilydd.

Mae’r Llywodraeth wedi dechrau cyflwyno deddfwriaeth er mwyn caniatáu i bobol 16 a 17 oed bleidleisio yn y bleidlais bwysig.

Cwestiwn tebygol y Refferendwm fydd “A ddylai’r Alban fod yn wlad annibynnol?”

Cytunodd Llywodraeth yr Alban i newid y cwestiwn gwreiddiol – “A ydych chi’n cytuno y dylai’r Alban fod yn wlad annibynnol?” – ar ôl i’r Comisiwn Etholiadol ddweud ei fod yn rhy unochrog o blaid annibyniaeth.