Mae olion cig porc wedi cael eu darganfod mewn selsig cyw iâr Halal sydd wedi cael eu gweini mewn o leiaf un ysgol gynradd, meddai Cyngor Westminster heddiw.
Roedd profion eraill yn dangos bod briwgig cig eidion oedd hefyd wedi ei gyflenwi i’r cyngor yn cynnwys DNA cig oen a phorc.
Dywedodd y cyngor eu bod wedi sicrhau bod y cynnyrch wedi cael eu tynnu o fwydlenni ysgolion a’u bod nhw wedi dweud wrth y cyflenwyr i roi’r gorau i ddarparu’r cig nes bod y mater yn cael ei ddatrys.
Daeth y broblem i’r amlwg ar ôl i’r awdurdod benderfynu cynnal eu profion eu hunain ar fwyd yn dilyn yr helynt cig ceffyl.
Roedd canlyniadau’r profion yn dangos nad oedd olion cig ceffyl yn y bwyd ond bod olion cig porc yn bresennol mewn selsig cyw iâr Halal.
Dywed Cyngor Westminster eu bod nhw bellach yn cynnal ymchwiliad i geisio darganfod sut roedd y cig wedi ei heintio.