Fe fydd 1.4 miliwn o weithwyr yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys, nyrsys, meddygon ac aelodau o’r lluoedd arfog yn cael codiad cyflog o 1% o fis nesaf, fe gyhoeddodd Llywodraeth San Steffan heddiw.
Dywedodd y Trysorlys bod argymhellion gan nifer o gyrff adolygu cyflogau wedi cael eu derbyn.
Ond mae undeb Unsain, sy’n cynrychioli 450,000 o weithwyr y GIG, yn dweud bod staff yn wynebu blwyddyn arall o galedi.
Mae’r undeb wedi condemnio’r codiad o 1% gan ddweud y bydd nifer o weithwyr iechyd a’u teuluoedd yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.
Mae chwyddiant ar hyn o bryd yn 2.7%.