Mae dyn 22 oed wedi ei gael yn ddi-euog o lofruddio dyn 20 oed ger Maesteg gyda chyllell.

Penderfynodd y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd nad oedd Stuart Worvell yn euog o lofruddio Thomas Sutton ym mis Mehefin y llynedd, ond ei fod yn euog o ddynladdiad.

Clywodd y llys bod Worvell wedi trywanu Sutton wedi i Sutton a’i ffrind Kyle Harris ddod i’w dŷ yn Nantyffyllon.

Dywedodd yr erlyniad fod Worvell  hefyd wedi trywanu Kyle Harris dair gwaith efo cyllell gegin ond penderfynodd y rheithgor nad oedd Worvell yn euog o geisio llofruddio Harris.

Dywedodd y barnwr nad oedd unrhyw amheuaeth nad Stuart Worvell oedd wedi lladd Sutton, ond atgoffodd y rheithgor bod Worvell wedi honni iddo amddiffyn ei hun.

Bydd Stuart Worvell yn cael ei gadw yn y ddalfa tan iddo gael ei ddedfrydu.