Gethin Jenkins fydd capten tîm Cymru ddydd Sadwrn yn erbyn Lloegr.

Mae rhoi Jenkins yn lle Paul James yn un o ddau newid gan Robert Howley i’r tim gurodd yr Alban.

Y llall yw Justin Tipuric yn lle Ryan Jones, sydd wedi ei anafu.

Mae Sam Warburton yn symud o’r blaenasgell agored i’r ochr dywyll er mwyn i Tipuric chwarae ei rôl naturiol.

Mae Aaron Shingler a Scott Andrews wedi eu dewis ar y fainc.

Bydd buddugoliaeth gan y Saeson yn sicrhau Camp Lawn iddyn nhw am y tro cyntaf ers 2003. Ond os yw Cymru yn ennill o 7 bwynt neu fwy byddan nhw’n cadw tlws Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Cymru:

Olwyr: Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North, Dan Biggar, Mike Phillips

Blaenwyr: Gethin Jenkins (capten), Richard Hibbard, Adam Jones, Alun Wyn Jones, Ian Evans, Sam Warburton, Justin Tipuric, Toby Faletau.

Eilyddion: Ken Owens, Paul James, Scott Andrews, Andrew Coombs, Aaron Shingler, Lloyd Williams, James Hook, Scott Williams.