Mae Lloegr wedi dewis Owen Farrell yn faswr ar gyfer y gêm dyngedfennol yn erbyn Cymru ddydd Sadwrn.

Mae Ben Youngs yn dychwelyd yn fewnwr, tra bod Tom Croft yn cael ei ddewis o flaen James Haskell yn y crys rhif 6.

Joe Marler sydd wedi ei ddewis i wynebu Adam Jones yn y rheng flaen.

Mae Lloegr wedi cadw at yr un canolwyr cydnerth – Tuilagi a Barritt – tra bod Billy Twelvetrees, sy’n fwy creadigol, yn dechrau ar y fainc

Dyma dîm Lloegr yn llawn:

Goode; Ashton, Tuilagi, Barritt, Brown; Farrell, B.Youngs; Marler, T.Youngs, Cole, Launchbury, Parling, Croft, Robshaw (capten), Wood

Eilyddion: Hartley, Wilson, Vunipola, Lawes, Haskell, Care, Flood, Twelvetrees.